Beth yw anghenion dysgu ychwanegol?

Ystyrir bod gan ddisgybl Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) os oes ganddo Ddarpariaeth Dysgu Ychwanegol (DdY) sy’n ‘wahanol i’ neu’n ‘ychwanegol at’ yr hyn y mae disgyblion eraill yn ei dderbyn. Pan benderfynir bod gan ddysgwr ADY, bydd yn derbyn Cynllun Datblygu Unigol (CDU). Bydd y CDU yn amlinellu unrhyw gymorth, ymyriadau a strategaethau ychwanegol i gefnogi’r person ifanc yn yr ysgol.

Er mwyn i ysgol benderfynu bod gan ddysgwr ADY rhaid iddynt ystyried y 2 brawf canlynol:

  • A yw’r dysgwr yn cael mwy o anhawster wrth ddysgu na’r mwyafrif o ddysgwyr eraill o’r un oedran NEU anabledd sy’n rhwystro eu haddysg neu ddefnydd o gyfleusterau

  • A oes angen DDdY sy'n wahanol i NEU yn ychwanegol at yr hyn sy'n hygyrch i ddysgwyr eraill ar y dysgwr

Mae’n bwysig nodi nad yw diagnosis yn golygu’n awtomatig bod gan ddysgwr ADY gan y gallai eu hanghenion gael eu diwallu drwy Ddarpariaeth Dysgu Cyffredinol.