Rhoi Gwybod Bod Eich Plentyn yn Absennol

Rhoi Gwybod Bod Eich Plentyn yn Absennol

I roi gwybod bod eich plentyn yn absennol, gallwch naill ai ffonio rhif yr ysgol a dilyn yr opsiynau i adael neges. Rhaid i'ch neges nodi'r rheswm dros yr absenoldeb a rhoi mwy o fanylion na nodi eu bod yn teimlo'n sâl. Rhaid i chi hefyd nodi'r dyddiad maent yn debygol o ddychwelyd i'r ysgol. Gellir rhoi gwybod bod eich plentyn yn absennol hefyd trwy ap EduLink. I wneud hyn mae angen i chi:

1.      clicio ar yr eicon Adrodd am Absenoldeb

2.      dewis ystod dyddiadau absenoldeb eich plentyn gan ddefnyddio’r calendrau. Dewiswch y ‘date from’ sef dechrau’r absenoldeb a’r ‘date to’ sef y dyddiad dychwelyd disgwyliedig.

3.      mewnbynni reswm dros absenoldeb eich plentyn yn y blwch testun ‘Reason for Absence’. Rhaid i rieni/gwarcheidwaid nodi’r rheswm dros ddiffyg presenoldeb y plentyn, nid dim ond teimlo’n sâl

4.      yn ogystal, gallwch atodi dogfen, megis tystysgrif feddygol, i roi rhagor o fanylion am yr absenoldeb os yn berthnasol

5.      clicio Anfon i adrodd am absenoldeb eich plentyn, neu gallwch wasgu’r botwm Canslo i ddileu’r absenoldeb.