Gwyliau/Absenoldeb yn ystod

Tymor yr Ysgol

Mae Ysgol Bro Caereinion yn gobeithio y gallwch drefnu gwyliau o gwmpas y 175 diwrnod presennol y mae’r ysgol ar gau dros y penwythnosau a gwyliau’r ysgol a helpu ni i gefnogi eich plentyn i gael llwyddiant yn yr ysgol. Dylai rhieni/gwarcheidwaid wneud cais ymlaen llaw i gymryd gwyliau yn ystod y tymor. Rhaid gwneud y cais ddim hwyrach na 5 diwrnod cyn dyddiad cychwyn y gwyliau. Nid oes rheidrwydd ar y pennaeth i awdurdodi absenoldeb gwyliau, ac nid oes isafswm hawl i absenoldeb gwyliau. Mae gan y pennaeth ddisgresiwn i awdurdodi absenoldebau am hyd at 10 diwrnod mewn blwyddyn ysgol. Os bydd disgybl i ffwrdd am fwy o amser na'r hyn a gytunwyd, bydd y cyfnod y tu allan i'r dyddiadau a gytunwyd yn absenoldeb anawdurdodedig. Nid oes hawl i apelio: mae penderfyniad y pennaeth yn derfynol.

Mae Ysgol Bro Caereinion yn ystyried y ffactorau a nodir isod cyn penderfynu a ddylid awdurdodi unrhyw wyliau y gofynnir amdanynt yn ystod y tymor:

  • Ffigurau presenoldeb am y flwyddyn ddiwethaf. Byddem yn disgwyl i bresenoldeb fod yn uwch na tharged yr ysgol o 95%.

  • Ymddygiad ac agwedd at fywyd ysgol.

  • Nad yw'r gwyliau yn effeithio ar unrhyw gyfnodau dysgu allweddol a nodir ac a amlygwyd gan yr ysgol megis profion/arholiadau mewnol/allanol a gynhelir ar wahanol adegau yn ystod y flwyddyn ysgol.

  • Bod y ffurflen gwyliau (a gysylltir isod) wedi ei chwblhau'n gywir a bod y cais wedi ei wneud 5 diwrnod ysgol cyn y gwyliau.

Cofiwch felly mai dim ond yn ôl disgresiwn y Prifathrawon y gellir awdurdodi gwyliau. Bydd e-bost yn nodi a gafodd eich cais am wyliau ei awdurdodi/neu'n anawdurdodedig yn cael ei anfon atoch ar ôl derbyn eich cais o fewn 5 diwrnod gwaith.

Mae’r ffurflen gwyliau/absenoldeb yn ystod y tymor i’w gweld yma: https://forms.office.com/e/vsY8P2UYyQ