Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Powys
Gwasanaeth cyfeirio at amrywiaeth o wahanol wasanaethau a chymorth sydd ar gael i deuluoedd ym Mhowys
Gwefan cynhwysiant powys
Gwybodaeth am ADY ym Mhwoys a chefnogaeth perthnasol sydd ar gael.
Cefnogaeth ar gyfer ady
Gwefan ADY Powys
Cymorth cynnar
Gallech chi gysylltu â’r tîm cymorth cynnar drwy earlyhelp@powys.gov.uk neu ffonio 01597 826246
Eich Plentyn Rhyfeddol
Cefnogaeth magu plant i rieni plant 3 - 8 oed. Gallwch archebu lle ar y cwrs hwn drwy'r ddolen hon: Gofyn am Gefnogaeth y Grŵp Magu Plant - Cyngor Sir Powys
Cwrs paratoi i fynd i’r ysgol
I rieni plant sydd i ddechrau'r ysgol ym mis Medi. Helpu i baratoi eich plentyn i fynd i'r ysgol. Cwrs 4 wythnos i rieni a gofalwyr sydd am helpu plant trwy chwarae, gyda sgiliau cymdeithasol ac academaidd a darllen â gofal. Bydd pob sesiwn yn para tua dwy awr. I archebu lle, cysylltwch â: flyingstart@powys.gov.uk
ASD Rhyfeddol
I rieni plant sydd wedi cael diagnosis o awtistiaeth neu sy'n cael eu hasesu gyda'r Tîm NDS. Gallwch archebu lle ar y cwrs hwn drwy'r ddolen hon: Gofyn am Gefnogaeth y Grŵp Magu Plant - Cyngor Sir Powys
teen life
Ar gyfer rhieni pobl ifanc 10-16 oed sydd â diagnosis o Gyflwr Sbectrwm Awtistig (ASC). I archebu lle, cysylltwch â: Powys.ias@wales.nhs.uk
take 3
Sesiwn grŵp 10-wythnos o hyd yn edrych ar sgiliau a strategaethau sy'n angenrheidiol wrth gynorthwyo pobl ifanc yn eu harddegau trwy'r cyfnod yma yn eu hoes. Trafod y syniadau, y pryderon a'r problemau sydd gan bob rhiant i blant yn eu harddegau. I archebu lle, cysylltwch â: aimee.hanson@powys.gov.uk
Gwybodaeth pellach
Sesiynau Galw Heibio Rhiant Ofalwyr - Sesiynau galw heibio ar gael gyda gweithwyr allweddol o fewn Tîm ADY Powys a BIAP. Cysylltwch â Tyfu ar tyfu.powys.gov.uk neu ffoniwch 01597 827108
SNAP Cymru - Elusen ADY Cymru yn cefnogi rhieni
Canllaw i Rieni ADY - Canllaw pwrpasol Llywodraeth Cymru i rieni plant ag ADY
Cod ADY 2021 - Deddfwriaeth yn ymwneud ag ADY yng Nghymru
NODI No-nonsense Guide to ALN in Wales - Ateb cwestiynau penodol a allai fod gennych am gyfraith ADY. Ar gael yn Saesneg yn unig.